SL(6)110 - Rheoliadau Cynghorau Cymuned Cymwys (Pŵer Cymhwysedd Cyffredinol) (Cymwysterau Clercod) (Cymru) 2021
Cefndir a Diben
Gwneir y Rheoliadau hyn gan Weinidogion Cymru wrth arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 30(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (“Deddf 2021”).
Mae'r Rheoliadau hyn yn nodi'r cymwysterau y mae'n rhaid i glerc cyngor cymuned eu dal er mwyn i'r cyngor cymuned fodloni un o'r tri amod cymhwysedd i ddod yn 'gyngor cymuned cymwys' o dan adran 30 o Ddeddf 2021, gan alluogi'r cyngor i arfer y pŵer cymhwysedd cyffredinol. Rhaid i glerc cyngor cymuned feddu ar o leiaf un o'r cymwysterau a ganlyn:
· Tystysgrif mewn Gweinyddiaeth Cynghorau Lleol;
· Tystysgrif Addysg Uwch mewn Llywodraethu Cymunedol.
· Tystysgrif Addysg Uwch mewn Ymgysylltu a Llywodraethu Cymunedol.
· Tystysgrif Addysg Uwch mewn Polisi Lleol.
Bydd y Rheoliadau yn dod i rym ar 5 Mai 2022.
Y weithdrefn
Negyddol.
Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd. Gall y Senedd ddirymu'r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddyddiau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.
Materion technegol: craffu
Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
Rhinweddau: craffu
Nodir y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.
Mae'r Pwyllgor yn nodi nad oes Asesiad Effaith Rheoleiddiol newydd wedi'i baratoi fel rhan o'r Rheoliadau. Aseswyd costau a manteision tebygol cydymffurfio â'r Rheoliadau fel rhan o'r Asesiad Effaith Rheoleiddiolar gyfer Deddf 2021 (tt 125-126). Mae Memordanum Esboniadol Llywodraeth Cymru yn darparu, yn dilyn adolygiad o'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol, ei fod yn parhau i fod yn gadarn ar wahân i nodi un gost arall. Ar y sail honno, ni ystyriwyd ei bod yn angenrheidiol cynnal Asesiad Effaith Rheoleiddiol newydd. Mae'r Memorandwm Esboniadol yn darparu fel a ganlyn:
“Mae un ychwanegiad i'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol i Ddeddf 2021, sy'n ymwneud yn benodol â pharagraffau 10.56 i 10.61. Daeth i'r amlwg yn ystod yr ymgynghoriad nad oedd darpariaeth ddwyieithog lawn ar gyfer hyfforddi ac asesu'r Dystysgrif mewn Gweinyddu Cynghorau Lleol (CiLCA). Mae darpariaeth ddwyieithog yn galluogi clercod i ymgymryd â CiLCA yn eu dewis iaith ac yn cefnogi amcanion y strategaeth iaith Gymraeg 2050 i gynyddu'r defnydd o'r iaith. Bydd sicrhau cyfieithiadau o’r deunyddiau perthnasol a chael aseswyr sy'n siarad Cymraeg yn costio £7,000 ym mlwyddyn ariannol 2021-22. Llywodraeth Cymru fydd yn ysgwyddo’r gost.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
21 Rhagfyr 2021